Mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru sydd yn gwneud cyfraniad gwych i’r wefan CLIC drwy gyflwyno erthyglau, lluniau a fideos. A’i ti fydd yr un nesaf?
Mae CLIC yn gylchgrawn ar-lein dwyieithog i bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru, gyda chynnwys yn cael ei greu gan bobl ifanc. Oes gen ti stori newyddion gwych, syniadau, barn neu symyfyrio hoffet ti rannu ar blatfform cenedlaethol? Yna cyflwyna i CLIC.
Mae’n hawdd cyflwyno stwff. Yr unig beth sydd raid gwneud ydy cofrestru i’r wefan a dyna ni, gallet gychwyn cyflwyno newyddion, digwyddiadau, blogiau, ffotograffau, fideos, lluniau – mae hyn i lawr i ti. Mae gennym galeri newydd sbon ar y wefan nawr ar ôl i bobl ifanc yng Nghymru ddweud fod hyn yn rhywbeth ychwanegol maent eisiau ar y wefan. Felly cychwynna ddefnyddio, cychwynna ddarllen, cychwynna gyflwyno a chychwynna rannu.
www.clicarlein.co.uk